#

Y Pwyllgor Deisebau ,Y Pwyllgor Deisebau | Hydref 2018
 Petitions Committee | October 2018
 
 
  

 

 

 


Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Rhif y ddeiseb: P-05-836

Teitl y ddeiseb: Adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Testun y ddeiseb: Nid yw Rheoliadau Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 wedi cael eu cymhwyso i Gymru, gan olygu nad oes gofyniad ar gyrff cyhoeddus datganoledig i gyhoeddi adroddiadau ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn man canolog.

Rydym yn credu y dylai cyrff sy’n derbyn arian cyhoeddus gyhoeddi’r wybodaeth hon, gan ddilyn y canllawiau, i sicrhau tryloywder arian cyhoeddus.

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru (fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol) gasglu data ar y bylchau cyflog rhwng y rhywiau, ond nid oes angen i’r data hwn gael ei gyhoeddi mewn fformat penodol neu mewn lleoliad penodol.

Canfu adolygiad diweddar o gydraddoldeb rhywiol gan Lywodraeth Cymru bod y gofynion presennol wedi eu "drafftio’n wael, nid yw canlyniadau cyhoeddedig yn amlwg iawn ac mae gwaith monitro wedi bod yn wan". Roedd yr adolygiad yn awgrymu y gellid gwella deddfwriaeth yng Nghymru drwy ddysgu gwersi o ofynion Llywodraeth y DU o ran adroddiadau.

Mae Rheoliadau 2017 Llywodraeth y DU (y mae’r ddeiseb yn cyfeirio atynt), yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus Lloegr ac awdurdodau cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli yng Nghymru a’r Alban sydd â mwy na 250 o weithwyr (fel y DVLA) yn unig. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau hyn gyhoeddi eu data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn fformat ystadegol penodol ar borth ar-lein canolog.

Beth yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw’r gwahaniaeth rhwng cyflogau cyfartalog dynion a menywod mewn cwmni neu sefydliad. Nid yw yr un peth â chyflog cyfartal, lle mae’n ofynnol i gwmnïau dalu’r un cyflog i bobl sy’n gwneud yr un swydd, pa un ai a ydynt yn ddynion neu’n fenywod.

Beth yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru?

Nid oes un mesur unigol sy’n ymdrin yn ddigonol â’r mater cymhleth o wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau. Y dangosydd mwyaf dibynadwy o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw mesur bwlch cyflog y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sy’n rhan o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE).

Mae’r ONS yn cyfrifo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel y gwahaniaeth rhwng enillion bob awr ar gyfartaledd (ac eithrio goramser) dynion a menywod fel cyfran o enillion cyfartalog bob awr (ac eithrio goramser) dynion. Er enghraifft, mae bwlch cyflog o 4% yn golygu bod menywod yn ennill 4% yn llai, ar gyfartaledd, na dynion. I’r gwrthwyneb, mae bwlch cyflog o -4% yn golygu bod menywod ar gyfartaledd yn ennill 4% yn fwy na dynion.

Mae ffigurau 2017 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru:

§  Ar gyfer gweithwyr amser llawn (sy’n cymharu enillion rhwng pobl sy’n gweithio oriau tebyg), bod dynion ar gyfartaledd yn cael eu talu 95c yr awr yn fwy na menywod, sef bwlch cyflog o 7.2%;

§  Ar gyfer pob gweithiwr (sy’n ystyried y ffaith bod menywod yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser), mae dynion ar gyfartaledd yn cael eu talu £1.98 yr awr yn fwy na menywod, sef bwlch cyflog o 15.9%;

Yn y DU, y bwlch cyflog ar gyfer gweithwyr amser llawn yw 9.1% (sy’n golygu bod dynion ar gyfartaledd yn ennill £1.32 yr awr yn fwy na menywod), ac ar gyfer yr holl weithwyr mae’r bwlch cyflog yn 18.4% (sy’n golygu nad oes dim dynion cyfartalog yn ennill £2.52 yr awr yn fwy na menywod).

Pa gyflogwyr sy’n gorfod cyhoeddi eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau?

Mae fframwaith cymhleth o ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cyhoeddi gwybodaeth am fylchau cyflog rhwng y rhywiau:

·         Mae gofyn i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru (waeth beth fo’u maint) ‘gasglu ac adnabod’ bylchau cyflog rhwng pobl o bob nodwedd (nid yn unig rhyw ond hefyd hil, oedran, anabledd, ac ati). Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau nodi pa gamau a gaiff eu cymryd i fynd i’r afael â bylchau cyflog. Mae hi dim ond yn ofynnol bod y data hwn yn cael ei gyhoeddi ‘fel y bo’n briodol’, ac nid yw’n ofynnol iddo gael ei gyhoeddi mewn lle canolog, felly mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn ei gyhoeddi ar eu gwefannau unigol (gweler Adroddiad cydraddoldeb blynyddol Cyngor Caerdydd fel enghraifft).

·         Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus Lloegr, awdurdodau cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli yng Nghymru a’r Alban, a phob corff sector preifat a gwirfoddol yn Lloegr, yng Nghymru ac yn yr Alban gyda mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi eu data ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn y Porth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.

·         Mae’n ofynnol i Awdurdodau cyhoeddus yr Alban sydd â mwy nag 20 o weithwyr gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond nid i leoliad canolog.

·         Nid yw’n ofynnol i Sefydliadau sector preifat a sector gwirfoddol yn Lloegr, Cymru na’r Alban sydd â llai na 250 o weithwyr gyhoeddi data bwlch cyflog rhwng y rhywiau o gwbl. Yng Nghymru yn 2017, roedd 99.3% o fentrau preifat a chanddynt lai na 250 o weithwyr.

Ceir crynodeb o’r ddeddfwriaeth benodol, y gofynion a lleoliad penodol y data yn y tabl isod:

 Cyflogwr     

Gofynion i gasglu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Deddfwriaeth

Cyhoeddi data

Awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru

 

Mae Adran 7 y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru nodi a chasglu gwybodaeth am wahaniaethau o ran cyflog, ac achosion unrhyw wahaniaethau o’r fath, rhwng gweithwyr sydd â nodwedd warchodedig a’r rheiny nad oes ganddynt nodwedd o’r fath.

Mae’r dyletswyddau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyhoeddi amcan cydraddoldeb mewn perthynas â mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau a nodwyd neu gyhoeddi rhesymau pam nad yw wedi gwneud hynny. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyhoeddi cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog.

Adran 7 o Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (a elwir yn ‘ddyletswyddau cydraddoldeb penodol y sector cyhoeddus yng Nghymru). Mae rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.

 

Mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid cyhoeddi’r wybodaeth hon ‘fel y bo’n briodol’.

Yn gyffredinol, mae awdurdodau yn cyhoeddi data ar wahaniaethau cyflog mewn adroddiadau cydraddoldeb blynyddol - mae rhai awdurdodau hefyd wedi cyhoeddi eu data yn wirfoddol i Borth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Llywodraeth y DU.

Nid oes dim lleoliad canolog lle mae data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer holl awdurdodau Cymru ar gael.

Awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr, ac awdurdodau cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli Cymru a’r Alban sydd â mwy na 250 o weithwyr.

Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus Lloegr, ac awdurdodau cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli yn yr Alban a Chymru gyda mwy na 250 o weithwyr, gyhoeddi data bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 - a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar y Porth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar                 fformat ystadegol penodol.

Sefydliadau sector preifat a sector gwirfoddol yn Lloegr, Cymru a’r Alban sydd â mwy na 250 o weithwyr

Mae’n ofynnol i bob sefydliad sector preifat a sector gwirfoddol yn Lloegr, Cymru a’r Alban gyda mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi data bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhyw) 2017 - a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd ar y Porth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar                 fformat ystadegol penodol.

Sefydliadau sector preifat a sector gwirfoddol yn Lloegr, Cymru a’r Alban sydd â llai na 250 o weithwyr

Dim gofynion i gasglu neu gyhoeddi data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

-

-

Awdurdodau cyhoeddus yr Alban (gyda mwy nag 20 o weithwyr)

 

Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus datganoledig yr Alban gyda mwy na 20 o weithwyr gyhoeddi data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) (Yr Alban) 2012 (a elwir yn ‘ddyletswyddau cydraddoldeb penodol y sector cyhoeddus yn yr Alban) - a wneir gan Weinidogion yr Alban

Awdurdodau yn cyhoeddi’r data ar eu gwefannau yn hytrach na mewn lleoliad canolog.

 

Adolygiad cyflym o rywedd

Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Chwarae Teg adroddiad cam un o ‘adolygiad cyflym’ a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhywiol. Daeth i’r casgliad a ganlyn:

"y bwriad oedd mai Dyletswydd Cydraddoldeb Benodol Cymru ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau fyddai’r ddyletswydd gryfaf a mwyaf effeithiol o’r dyletswyddau penodol ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn y DU. Fodd bynnag, ym marn Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru cafodd y ddyletswydd ei drafftio’n wael, nid yw canlyniadau cyhoeddedig yn amlwg iawn ac mae gwaith monitro wedi bod yn wan.

Mae cyfleoedd i ddysgu gan Reoliadau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau y DU, sy’n cynnwys gofynion adrodd a chyhoeddi penodol iawn. Bu cryn dipyn o gydymffurfiaeth â’r terfyn amser adrodd cychwynnol, sef mis Ebrill 2018. Mae opsiynau hefyd i estyn y rhain i gynnwys elfennau o ddyletswydd bresennol Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddadansoddiad o gyflogaeth nodi’r hyn sy’n ysgogi bylchau cyflog a chynllun gweithredu."

Trafodaethau yn y Cynulliad

Yn ddiweddar argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai Llywodraeth Cymru gasglu a chyhoeddi data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus Cymru sydd wedi’u datganoli ym Mhorth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Llywodraeth y DU.

Roedd Llywodraeth Cymru yn derbynyr argymhelliad hwn, gan ddweud ei bod "[yn cytuno] byddai’n ddefnyddiol i’r dinesydd a phobl eraill sydd â diddordeb allu cael gafael ar y wybodaeth hon o un lleoliad. [...] Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i annog cyrff cyhoeddus i gyhoeddi’r data hyn mewn ffordd agored a hawdd cael gafael arnynt, [a bydd] hefyd yn ystyried ymhellach ai’r ffordd orau o gyhoeddi data Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yng Nghymru yw ar borth Llywodraeth y DU."

Mewn tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, awgrymoddJulie James, AC Arweinydd y Tŷ y gallai’r Comisiwn Gwaith Teg, o bosibl, roi cychwyn i ddarn o waith sy’n […] ein galluogi ni i ymestyn y ddyletswydd ar gyfer ein [gwaith adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau]. [.. ] o ran 250 o weithwyr ar hyn o bryd, ac nid yw hynny hyd yn oed yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o gwmnïau Cymru am eu bod i gyd yn llawer llai na hynny.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Ysgrifennodd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ (sy’n gyfrifol am gydraddoldeb), at y Pwyllgor Deisebau, gan ddweud ei bod wedi:

“made a clear and public commitment to publish gender pay gap data in a more open, user-friendly and accessible format. It would certainly be helpful for interested parties to be able to access the information from a single location. Work is already underway to ensure this happens at the earliest possibility and I will keep Assembly Members informed of progress."

Mae hi hefyd yn nodi:

§    Bod angen adolygu dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru (PSED) a chodwyd y trefniadau o ran adroddiadau yn yr Adolygiad Cyflym o Rywedd;

§    Mae’n disgwyl camau gweithredu cynnar i wella arferion adrodd am fylchau cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru a [..] gwneir hyn yng nghyd-destun cryfhau’r rheoliadau PSED yn gyffredinol;

§    Nid yw adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn ddigon, ac mae dyletswyddau presennol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau datganoledig yng Nghymru gymryd camau i leihau bylchau cyflog rhwng y rhywiau;

§    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ar hyn o bryd yn cynnal ymarfer monitro a fydd yn cynnwys 79 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac fe’i cynhelir rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi; ac

§    Mae Llywodraeth Cymru ‘yn annog’ awdurdodau cyhoeddus i ‘gyhoeddi data mewn fformatau hygyrch ac agored y gall Llywodraeth Cymru wedyn eu casglu a’u cyflwyno mewn un lleoliad.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.